home-banner

Graddiad Moesegol Cymru

Yn gwella lles gweithwyr ar draws Cymru a'i chadwyni cyflenwi

previous arrow
next arrow

Beth yw Graddiad Moesegol Cymru?

Mae Graddiad Moesegol Cymru yn gwobrwyo sefydliadau sy’n gweithredu i fesur, monitro a rheoli’r perygl o Gaethwasiaeth Fodern a safonau cyflogaeth moesegol yn eu gweithrediadau.

Trwy gydnabod a gwobrwyo’r sefydliadau gorau, mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i hybu safonau cyflogaeth, gwella lles gweithwyr yng Nghymru ac ar draws ei chadwyni cyflenwi.

Nid dim ond rhywbeth ‘sy’n braf i’w gael’ yw lles gweithwyr, ond mae’n strategaeth broffidiol a chynaliadwy lle mae cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd yn elwa.

Golyga strwythur Graddiad Moesegol Cymru y gall sefydliadau o unrhyw faint ymaelodi. Gall sefydliadau rewi neu stopio ar unrhyw lefel, gan weithio drwy’r rhaglen ar eu cyflymder eu hunain.

Manteision ymuno â Graddiad Moesegol Cymru

Rhaglen glir, cam wrth gam wedi ei theilwra i’ch anghenion

Gwella cynhyrchiant, proffidioldeb a morâl y gweithwyr

Tystysgrif foesegol er mwyn eich gwahaniaethu oddi wrth eich cystadleuwyr

Agwedd gydweithredol. Rydym yn gweithio gyda chi ar bob cam o’r ffordd

Safonau lles gweithwyr sy’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau cwsmeriaid

Safonau cyfreithiol a chyflogaeth foesegol blaengar

Slide
Wyddoch chi?

Mae'r diwydiannau gyda'r perygl mwyaf o gamfanteisio ar weithwyr yn cynnwys 27% o gyflogaeth Cymru.

Ffynhonnell: statswales.gov.wales/Catalogue

previous arrow
next arrow