Cod Ymarfer
Mae Graddiad Moesegol Cymru yn galluogi busnesau Cymru i gyflawni’r Cod Ymarfer ‘Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi mwy moesegol. Cynlluniwyd y cod i sicrhau y cyflogir gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi sector cyhoeddus yn foesegol ac yn unol â chyfreithiau’r DU, yr UE a rhai rhyngwladol.
Mae’r Cod Ymarfer yn cynnwys y materion cyflogaeth canlynol:
- Caethwasiaeth Fodern a cham-drin hawliau dynol
- Cosbrestru
- Hunan-gyflogaeth ffug
- Defnydd annheg o gynlluniau ambarél a chontractau dim oriau
- Talu’r Cyflog Byw
Drwy gofrestru â rhaglen Graddiad Moesegol Cymru, bydd sefydliadau hefyd yn ymroi eu hunain i’r Cod Ymarfer a byddant yn cytuno i gydymffurfio â’r deuddeg ymroddiad a ddyluniwyd i ddileu Caethwasiaeth Fodern a chefnogi arferion cyflogaeth moesegol.
Mae’r Cod Ymarfer llawn ‘Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’ ar gael trwy glicio yma.
