Y Pethau Sylfaenol

Cynlluniwyd y rhaglen Graddiad Moesegol Cymru i’ch helpu i ddeall, monitro a rheoli safonau cyflogaeth moesegol oddi mewn i’ch sefydliad a’i gadwyn cyflenwi.

Mae’r rhaglen yn wahanol i asesiadau cymdeithasol eraill ac mae’n annog agwedd gydweithredol gryf ble gweithiwn yn glòs gyda chi i helpu cyrraedd y lefel rydych chi’n anelu at ei chyrraedd.

Nid yw Graddiad Moesegol Cymru yn archwiliad. Mae’n asesiad cydweithredol lle byddwn yn gweithio gyda chi i gael dadansoddiad manwl a chynhwysfawr o’ch perfformiad moesegol presennol ac adeiladu rhaglen o welliant parhaus.

Mae pwyslais cryf yr asesiad ar lais y gweithiwr i’ch helpu chi gyflawni gweledigaeth real o brofiadau go iawn eich gweithlu ar lawr gwlad.

Lefelau Asesu

Rhennir yr asesiad i 15 maes rheoli strategol rydym ni’n eu mesur ar draws pedair lefel:

LEFEL 1: Sylfaen – Mae’r busnes yn gwneud yr ymrwymiad ac yn adeiladu ei rhaglen gyflogaeth foesegol gyda lefel sylfaenol o gydymffurfio.

LEFEL 2: Gweithredu – Mae’r busnes yn gweithredu ac yn monitro ei rhaglen oddi mewn i’r sefydliad ei hun a thrwy’r gadwyn cyflenwi.

LEFEL 3: Perfformio – Mae gan y busnes raglen effeithiol, gynhwysfawr ac wedi ei chydlynu ar waith ac mae’n perfformio’n dda.

LEFEL 4: Blaengar – Mae gan y busnes raglen flaengar, sefydledig yn gweithredu ar safon eithriadol o uchel.