Q: Pwy all ymgeisio am y rhaglen Graddiad Moesegol Cymru?
A: Gall unrhyw sefydliad sydd ag o leiaf un adeilad wedi ei leoli yng Nghymru ymgeisio am y rhaglen Graddiad Moesegol. Gall y sefydliad fod o unrhyw faint neu ddiwydiant. Nid yw cofnod o gyflogaeth foesegol flaenorol yn cael effaith mewn perthynas â chymhwysedd i’r rhaglen.
Q: Beth yw cenhadaeth Graddiad Moesegol Cymru?
A: Ein cenhadaeth yw cefnogi arferion cyflogaeth foesegol busnesau Cymru fel gall Cymru arwain y ffordd ar waith teg.
Q: Sut ydw i’n cofrestru â Graddiad Moesegol Cymru?
A: I gofrestru â Graddiad Moesegol Cymru bydd angen ichi glicio ar y blwch ‘cofrestru’ a geir ym mrig tudalen gwefan Graddiad Moesegol Cymru. Yna, bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gofrestru drwy gyflwyno gwybodaeth am eich busnes a’ch manylion cyswllt. Unwaith bydd y ffurflen yn gyflawn, byddwn yn cysylltu i ddechrau’ch siwrne ar y rhaglen Graddiad Moesegol Cymru.
Q: Pam mae angen y rhaglen Graddiad Moesegol Cymru?
A: Mae’r diwydiannau gyda’r perygl mwyaf o gamfanteisio ar weithwyr yn cynnwys 27% o gyflogaeth Cymru. Mae’r diwydiannau hyn yn cynnwys adeiladu, lletygarwch, darparu llafur, coedwigaeth ac amaethyddiaeth. Yn anffodus, mae’r pandemig Covid-19 dim ond wedi gwaethygu’r risgiau hyn. I raddau helaeth, mae hyn oherwydd i weithwyr brofi mwy o galedi economaidd ac nid yw asesiadau’n gallu monitro safonau llafur moesegol sefydliad a’i gadwyn gyflenwi gymaint ag arfer. Mae Graddiad Moesegol Cymru yn rhoi sefydliadau yn ôl ar y trywydd cywir ar gyfer mynd i’r afael â chamfanteisio ar weithwyr a hybu safonau llafur moesegol.
Q: Sut mae Graddiad Moesegol Cymru yn alinio ag argymhellion Llywodraeth Cymru?
A: Noddwyd cynllun peilot Graddiad Moesegol Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2019 a sicrhaodd bod y rhaglen yn cynnwys argymhellion Llywodraeth Cymru i sefydlu a chynnal sefydliad moesegol. Ceir yr argymhellion hyn yn y dogfennau canlynol:
- Y Cod Ymarfer ‘Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi’
- Yr Adroddiad Gwaith Teg
- Y Contract Economaidd
