Amdanom Ni
Mae’r rhaglen GMC yn wasanaeth a ddarperir gan ESC International. Mae ESC International yn wasanaeth cynghori masnachu moesegol ac ymgynghoriaeth rhyngwladol wedi ei leoli yng Nghymru.
Mae Graddiad Moesegol Cymru yn gweithio â busnesau Cymru i ymrwymo i God ymarfer Llywodraeth Cymru ‘Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi’, sy’n sicrhau y cyflogir gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi y sector cyhoeddus yn foesegol ac yn unol â chyfreithiau’r DU, yr UE a rhai rhyngwladol.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a noddodd gynllun peilot Graddiad Moesegol Cymru yn 2019.
Rydym yn arbenigwyr mewn galluogi sefydliadau o bob maint i roi arferion tecach a gwyrddach ar waith ac rydym yn unigryw yng Nghymru. Mae ein harbenigedd yn ein caniatáu i ganolbwyntio ar lawer o feysydd busnes critigol gan gynnwys Caethwasiaeth Fodern, camfanteisio ar weithwyr, hawliau dynol/gweithwyr, a’r amgylchedd.
Rydym yn falch o ddarparu gwasanaeth wedi ei deilwra, yn diwallu anghenion busnesau o bob maint.
Am ragor o fanylion am ESC International a’n gwaith, cliciwch yma.