Gwaith Teg

Mae’r Comisiwn Gwaith Teg yn argymell sut i annog arferion cyflogaeth teg ar draws Cymru. Mae ei argymhellion a’i nodau’n alinio’n berffaith â chenhadaeth Graddiad Moesegol Cymru i arwain y ffordd mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy a chyflogaeth foesegol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn mynd ati i gyrraedd y nod o economi gryfach, wedi ei moderneiddio a mwy cynhwysol. Mae hefyd yn ceisio taclo anghydraddoldeb, lleihau tlodi a hybu lles.

Mae adroddiad llawn y Comisiwn Gwaith Teg ar gael drwy glicio yma.