Graddiad Moesegol Cymru
Yn gwobrwyo sefydliadau sy'n gweithredu ar berygl o
Gaethwasiaeth Fodern a lles gweithwyr
Beth yw Graddiad Moesegol Cymru?
Mae Graddiad Moesegol Cymru yn gwobrwyo sefydliadau sy’n gweithredu i fesur, monitro a rheoli’r perygl o Gaethwasiaeth Fodern a safonau cyflogaeth moesegol yn eu gweithrediadau.
Trwy gydnabod a gwobrwyo’r sefydliadau gorau, mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i hybu safonau cyflogaeth, gwella lles gweithwyr yng Nghymru ac ar draws ei chadwyni cyflenwi.
Nid dim ond rhywbeth ‘sy’n braf i’w gael’ yw lles gweithwyr, ond mae’n strategaeth broffidiol a chynaliadwy lle mae cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd yn elwa.
Golyga strwythur Graddiad Moesegol Cymru y gall sefydliadau o unrhyw faint ymaelodi. Gall sefydliadau rewi neu stopio ar unrhyw lefel, gan weithio drwy’r rhaglen ar eu cyflymder eu hunain.
Manteision ymuno â Graddiad Moesegol Cymru
Rhaglen glir, cam wrth gam wedi ei theilwra i’ch anghenion
Gwella cynhyrchiant, proffidioldeb a morâl y gweithwyr
Tystysgrif foesegol er mwyn eich gwahaniaethu oddi wrth eich cystadleuwyr
Agwedd gydweithredol. Rydym yn gweithio gyda chi ar bob cam o’r ffordd
Safonau lles gweithwyr sy’n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau cwsmeriaid
Safonau cyfreithiol a chyflogaeth foesegol blaengar
Mae'r diwydiannau gyda'r perygl mwyaf o gamfanteisio ar weithwyr yn cynnwys 27% o gyflogaeth Cymru.
Ffynhonnell: statswales.gov.wales/Catalogue
Mae'r diwydiannau sydd â'r perygl mwyaf o gamfanteisio ar weithwyr yn cynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgota, cynhyrchu, adeiladu, darparu llafur, arlwyo a lletygarwch.
Ffynhonnell: statswales.gov.wales/Catalogue
Mae bron i chwarter dioddefwyr posibl Caethwasiaeth Fodern y Deyrnas Unedig yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig.
Ffynhonnell: ons.gov.uk
Mae llafur dan orfod yn yr economi breifat yn cynhyrchu dros £110 biliwn o elw anghyfreithlon y flwyddyn.
Ffynhonnell: oit.org
'Mae gan Gymru'r cyfle i arwain y ffordd ar waith teg' - y Comisiwn Gwaith Teg 2019.
Ffynhonnell: gov.wales