Ynglŷn â’r Cod
Mae’r Cod Ymarfer “Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi”, wedi cael ei sefydlu gan Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi moesegol ond hefyd i gyflawni contractau ar gyfer sector cyhoeddus Cymru a sefydliadau’r trydydd sector sy’n derbyn arian cyhoeddus.
Mae’r Cod yma wedi’i gynllunio er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cyflogi’n foesegol ac yn unol â deddfau’r DU, yr UE a rhyngwladol.
Wrth ymuno â’r Cod, bydd sefydliadau’n cytuno i gydymffurfio â 12 ymrwymiad sydd wedi’u cynllunio i ddileu caethwasiaeth fodern a chefnogi arferion cyflogaeth foesegol.
Mae’r Cod yn cynwys y materion cyflogaeth canlynol:
- Caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol
- Rhestru Ddu
- Hunangyflogaeth ffug
- Defnydd annheg o gynlluniau ymbarêl a chontractau sydd ddim efo oriau
- Talu’r Cyflog Byw
Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r materion hyn yn y Pecyn Cymorth Cod Ymarfer www.gov.wales/code-of-practice
